Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020
Amser:
09.00 -
09.38
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc Helen Finlayson, Ysgrifenyddiaeth |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod yr wythnos diwethaf i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o bara’n hwyrach na 7.10pm.
Dydd Mercher
· Cynhelir Amser Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o bara’n hwyrach na 7.20pm.
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau amrywiol i Fusnes yr Wythnos Hon:
· ychwanegu dadl ar y cyfyngiadau Coronafeirws newydd i agenda dydd Mawrth, ochr yn ochr â chynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro, er mwyn caniatáu iddi ddigwydd;
· y datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Mae’r diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd a'r ddadl ar Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20 ill dau wedi'u gostwng mewn amser o 45 i 30 munud; a;
· Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020 wedi’i ohirio.
Dadl ar Gyfyngiadau Coronafeirws
Amlygodd y Llywydd fod cyfanswm o 17 o welliannau wedi’u cyflwyno i ddadl dydd Mawrth, a 5 i ddadl y Ceidwadwyr ddydd Mercher, ac y gallai ddefnyddio ei phwerau dewis, yn ôl yr arfer.
Adroddiad safonau
Er mwyn cynnal busnes yn iawn, cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddadl ar yr Adroddiad Safonau fel yr eitem olaf cyn yr amser pleidleisio.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 15 Rhagfyr 2020
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020
·
Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15
munud) - wedi'i ohirio tan
12 Ionawr
Dydd Mawrth 12 Ionawr 2021
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (15 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 13 Ionawr 2021 -
Dydd Mercher 20 Ionawr 2021 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ddydd Llun 14 Rhagfyr fel terfyn amser i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.2 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd o 11 Ionawr 2021, a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd o 4 Chwefror 2021.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil y Farchnad Fewnol at bwyllgor.
4.3 Cynigion Cydsyniad Offeryn Statudol
Rhoddodd y Llywydd wybod i Reolwyr Busnes y bydd yn ymateb i gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y mater hwn, ac yn anfon copi at y Pwyllgor Busnes.
5 Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Cytunodd Rheolwyr Busnes i gyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor ar 16 Rhagfyr.
6 Y Rheolau Sefydlog
6.1 Gweithdrefnau Adalw
Anogodd y Llywydd Reolwyr Busnes i roi adborth gan eu grwpiau ar y papur hwn a'r papur canlynol wrth iddyn nhw godi, yn hytrach nag aros am y cyfarfod nesaf.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod y papur â'u grwpiau a dod yn ôl i'r cyfarfod yr wythnos nesaf i fynegi unrhyw safbwyntiau cychwynnol.
6.2 Adolygu'r Rheolau Sefydlog mewn perthynas â grwpiau gwleidyddol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod y papur â'u grwpiau a dod yn ôl i'r cyfarfod yr wythnos nesaf i fynegi unrhyw safbwyntiau cychwynnol.